Y Pwyllgor Menter a Busnes |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 3 - Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mercher, 2 Gorffennaf 2014 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09.30 - 11.50 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
William Graham AC (Cadeirydd) Keith Davies AC Dafydd Elis-Thomas AC Rhun ap Iorwerth AC Julie James AC Eluned Parrott AC Joyce Watson AC Suzy Davies AC |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
David Alston, Cyngor Celfyddydau Cymru Rebecca Brough, Cyswllt Amgylchedd Cymru James Byrne, Ymddiriedolaethau Natur Cymru John Griffiths AC, Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon Marilyn Lewis, Llywodraeth Cymru Linda Tomos, CyMAL Library Development Team Sian Tomos, Cyngor Celfyddydau Cymru |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Claire Morris (Ail Clerc) Richard Watkins (Dirprwy Glerc) Robin Wilkinson (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
Cafwyd ymddiheuriadau gan Mick Antoniw AC, Byron Davies AC a David Rees AC. Dirprwyodd Suzy Davies AC ar ran Byron Davies AC.
2 Ymchwiliad i Dwristiaeth (Sesiwn 6)
Bu John Griffiths (y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon), Marilyn Lewis a Linda Tomos yn ateb cwestiynau gan aelodau’r pwyllgor.
Cytunodd John Griffiths i ddarparu gwybodaeth ychwanegol am y materion a ganlyn i’r Pwyllgor:
i) y mewnbwn y mae ei swyddogion wedi’i gael i’r ymarfer brandio gydag Ashton Brand Consulting Group.
ii) sut y mae ei adran yn cyfrannu at dwristiaeth drwy gynnal a chadw atyniadau.
iii) pa dargedau sydd ganddo i gynyddu nifer yr ymwelwyr i’r atyniadau sydd
o dan ei ofal.
iv) canlyniadau’r arolygiadau o foddhad ymwelwyr a gynhaliwyd gan ei adran
yn ddiweddar.
v) rôl y Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig o ran trefnu gŵyl WOMEX.
3 Ymchwiliad i Dwristiaeth (Sesiwn 7)
Bu David Alston a Sian Tomos yn ateb cwestiynau gan aelodau’r pwyllgor.
Cytunodd David Alston i ddarparu gwybodaeth ychwanegol i’r Pwyllgor ynglŷn â digwyddiadau sy’n denu sylw’r wasg ac sy’n gallu bod yn fwy effeithiol na hysbysebu uniongyrchol.
4 Ymchwiliad i Dwristiaeth (Sesiwn 8)
Bu Rebecca Brough a James Byrne yn ateb cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.
5 Papurau i'w nodi
Nododd y Pwyllgor y dogfennau ategol a ganlyn:
EBC(4)-18-14 (p. 4) – Llythyr i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth
EBC(4)-18-14 (p. 5) – Ymaeteb oddi wrth Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth
EBC(4)-18-14 (p. 6) – Tystiolaeth Ychwanegol (1) gan VisitBritain
EBC(4)-18-14 (p. 7) - Tystiolaeth Ychwanegol (2) gan VisitBritain
EBC(4)-18-14 (p. 8) – Llythyr oddi wrth y Pwyllgor Cyllid i Gadeiryddion
6 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn
Penderfynodd y Pwyllgor i wahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:
Ystyried adroddiad drafft (Ymchwiliad i agwedd Llywodraeth Cymru tuag at hyrwyddo marchnata a mewnfuddsoddi).
7 Ystyried Adroddiad Drafft
Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft.